Gwersi SUP

Ydych chi’n newydd i SUP? Hoffech chi gael gwers?

Neu ydych chi wedi cwblhau’ch cwrs mynediad i SUP ac yn chwilio am fwy o dechneg neu hyder?

Mae gennym hyfforddwyr wedi ei achrededig gan Water Skills Academy yn y grŵp a fydd yn hapus i roi gwersi SUP.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd (CIWW) i ddarparu gwersi SUP gan ddefnyddio amgylchedd diogel a rheoledig y pwll isaf yn CIWW ar gyfer gwersi dechreuwyr. Caiff ansawdd y dŵr yma ei wirio’n rheolaidd. Ni fyddwn yn mynd â chi i mewn i ardaloedd dwr agored lle mae cychod yn weithredol nes ein bod yn hapus â’ch sgiliau SUP ac mae gennych ddigon o hyder i wneud hynny.

Gallwch hefyd archebu i mewn i wersi SUP y grŵp a ddarperir yn CIWW – gwiriwch nhw yma